Police Authorities Of Wales

Beth yw Awdurdod Heddlu Cymru (AHC)?

Beth yw Awdurdod Heddlu Cymru (AHC)?

Mae Awdurdodau Heddlu Cymru (AHC) yn gorff cynrychioliadol o bedwar Awdurdod Heddlu Cymru.

Prif amcanion AHC yw:

  • Ystyried a gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar blismona yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny sydd o dan reolaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Ceisio dylanwadu ar yr agenda blismona ar lefel genedlaethol ar ran Awdurdodau Heddlu a chymunedau lleol yng Nghymru
  • Cefnogi Awdurdodau Heddlu yn y gwaith o sicrhau gwasanaethau plismona effeithiol ac effeithlon ledled Cymru
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o anghenion plismona a rôl a chyflawniadau Awdurdodau Heddlu
  • Cynnal a hyrwyddo egwyddorion atebolrwydd lleol a phlismona drwy gydsyniad

Mae gan bob un o bedwar Awdurdod Heddlu Cymru bedwar aelod ar AHC.

Gweinyddir AHC gan Swyddog Gweithredol, sef Shelley Bosson, Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Gwent.

Fe’i cefnogir gan Maria Chapman, Swyddog Cymorth Gweithredol; Rachel Morgan, Swyddog Polisi Diogelwch Cymunedol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Lyn James, y Cynghorydd Ariannol a Thrysorydd Awdurdod Heddlu De Cymru;  Cerith Thomas a Anna Humphreys y Dirprwy Swyddogion Gweithredol a; a Keith Reeves Cynghorydd Cyfreithiol a Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.

Bob blwyddyn dewisir Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Y rhai sy’n dal y swyddi ar hyn o bryd yw:
Cadeirydd – Cynghorydd Russell Roberts (Awdurdod Heddlu De Cymru).
Is-gadeirydd - Mrs Cilla Davies (Awdurdod Heddlu Gwent)
Hafan